Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 24 Mai 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


72(v4)  

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

 

Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

 

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru

(30 munud)

 

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

(30 munud)

 

</AI6>

<AI7>

7       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gohiriwyd tan 14 Mehefin

 

</AI7>

<AI8>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

 

NDM6316 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.

3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r  tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal.

 

</AI8>

<AI9>

9       Dadl Plaid Cymru - Tynnwyd yn ôl

 

</AI9>

<AI10>

10   Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

 

NDM6318 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a'r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru.

2. Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.

'Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru'

'Ynni Cymru – Pŵer i Gymru'

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;

b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac

c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.

3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.

4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.

 

</AI10>

<AI11>

11   Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

12   Dadl Fer

(30 munud)

 

NDM6315 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Amddiffyn Cymru i'r genhedlaeth nesaf.

Yr heriau presennol sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y berthynas â gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu cadarnhaol ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>